Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser
y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (155) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Byron Davies (Gorllewin De Cymru): Ymhellach i drafodaethau cychwynnol â’i berchnogion, a wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hyfywedd Unity Mine yn y dyfodol, yn dilyn cadarnhad ei fod wedi gwneud cais i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr?
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 14.37
NNDM5335 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Ann Jones (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Ken Skates (Llafur).
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cyflwyno'r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 14.38
4 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Llwyddiant Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i Gyllido a Hwyluso'r Gwaith o Gyflogi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol
Dechreuodd yr eitem am 15.25
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Bysiau Arriva Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.52
6 Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: “Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru - Adolygiad Cymru 2012-13”
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM5327 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru’.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella safon ac argaeledd gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i annog dioddefwyr troseddau casineb a cham-drin domestig i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod aelodaeth byrddau’r sector cyhoeddus yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn fwy cywir.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn cyfleoedd gwaith o bob math.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5327 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru’.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella safon ac argaeledd gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol.
Yn cydnabod yr angen i annog dioddefwyr troseddau casineb a cham-drin domestig i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod aelodaeth byrddau’r sector cyhoeddus yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn fwy cywir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn cyfleoedd gwaith o bob math.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2012-13
Dechreuodd yr eitem am 17.09
NDM5326 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2012/13, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Medi 2013.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal cam-drin pobl hŷn a mynd i’r afael â hyn, boed hwnnw'n gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol neu ariannol.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5326 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2012/13, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Medi 2013.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal cam-drin pobl hŷn a mynd i’r afael â hyn, boed hwnnw'n gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol neu ariannol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:07
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 16 Hydref 2013